6 Onid dyma yr ympryd a ddewisais? datod rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri ohonoch bob iau?
7 Onid torri dy fara i'r newynog, a dwyn ohonot y crwydraid i dŷ? a phan welych y noeth, ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun?
8 Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr, a'th iechyd a dardda yn fuan: a'th gyfiawnder a â o'th flaen; gogoniant yr Arglwydd a'th ddilyn.
9 Yna y gelwi, a'r Arglwydd a etyb; y gwaeddi, ac efe a ddywed, Wele fi. Os bwri o'th fysg yr iau, estyn bys, a dywedyd oferedd;
10 Os tynni allan dy enaid i'r newynog, a diwallu yr enaid cystuddiedig: yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a'th dywyllwch fydd fel hanner dydd:
11 A'r Arglwydd a'th arwain yn wastad, ac a ddiwalla dy enaid ar sychder, ac a wna dy esgyrn yn freision: a thi a fyddi fel gardd wedi ei dyfrhau, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfroedd.
12 A'r rhai a fyddant ohonot ti a adeiladant yr hen ddiffeithleoedd; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth: a thi a elwir yn gaewr yr adwy, yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt.