14 Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell: canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn.
15 Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a'r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a'i gwna ei hun yn ysbail: a gwelodd yr Arglwydd hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn.
16 Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr: am hynny ei fraich a'i hachubodd, a'i gyfiawnder ei hun a'i cynhaliodd.
17 Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sêl fel cochl.
18 Yn ôl y gweithredoedd, ie, yn eu hôl hwynt, y tâl efe, llid i'w wrthwynebwyr, taledigaeth i'w elynion; taledigaeth i'r ynysoedd a dâl efe.
19 Felly yr ofnant enw yr Arglwydd o'r gorllewin, a'i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr Arglwydd a'i hymlid ef ymaith.
20 Ac i Seion y daw y Gwaredydd, ac i'r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr Arglwydd.