1 Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a'i odre yn llenwi y deml.
2 Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai.
3 A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o'i ogoniant ef.
4 A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a'r tŷ a lanwyd gan fwg.
5 Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, Arglwydd y lluoedd.
6 Yna yr ehedodd ataf un o'r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel:
7 Ac a'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â'th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod.