1 Cyfod, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr Arglwydd arnat.
2 Canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a'r fagddu y bobloedd: ond arnat ti y cyfyd yr Arglwydd, a'i ogoniant a welir arnat.
3 Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad.
4 Cyfod dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; ymgasglasant oll, daethant atat: dy feibion a ddeuant o bell, a'th ferched a fegir wrth dy ystlys.