14 A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a'r rhai oll a'th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a'th alwant yn Ddinas yr Arglwydd, yn Seion Sanct Israel.
15 Lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i'r holl genedlaethau.
16 Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd, a'th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob.
17 Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a'th drethwyr yn gyfiawn.
18 Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a'th byrth yn Foliant.
19 Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a'r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a'th Dduw yn ogoniant i ti.
20 Ni fachluda dy haul mwyach, a'th leuad ni phalla: oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.