19 Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a'r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a'th Dduw yn ogoniant i ti.
20 Ni fachluda dy haul mwyach, a'th leuad ni phalla: oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.
21 Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y'm gogonedder.
22 Y bychan a fydd yn fil, a'r gwael yn genedl gref. Myfi yr Arglwydd a brysuraf hynny yn ei amser.