8 Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel cwmwl, ac fel colomennod i'w ffenestri?
9 Yn ddiau yr ynysoedd a'm disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a'u haur gyda hwynt, i enw yr Arglwydd dy Dduw, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di.
10 A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a'u brenhinoedd a'th wasanaethant; canys yn fy nig y'th drewais, ac o'm hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt.
11 Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd.
12 Canys y genedl a'r deyrnas ni'th wasanaetho di, a ddifethir; a'r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir.
13 Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd le fy nhraed.
14 A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a'r rhai oll a'th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a'th alwant yn Ddinas yr Arglwydd, yn Seion Sanct Israel.