1 Pwy yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu.
2 Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad, a'th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf?
3 Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd un gyda mi; canys mi a'u sathraf hwynt yn fy nig, ac a'u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a'u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a'm holl wisgoedd a lychwinaf.
4 Canys dydd dial sydd yn fy nghalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth.
5 Edrychais hefyd, ac nid oedd gynorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr: yna fy mraich fy hun a'm hachubodd, a'm llidiowgrwydd a'm cynhaliodd.
6 A mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a'u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a'u cadernid a ddisgynnaf i'r llawr.