3 Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd un gyda mi; canys mi a'u sathraf hwynt yn fy nig, ac a'u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a'u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a'm holl wisgoedd a lychwinaf.
4 Canys dydd dial sydd yn fy nghalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth.
5 Edrychais hefyd, ac nid oedd gynorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr: yna fy mraich fy hun a'm hachubodd, a'm llidiowgrwydd a'm cynhaliodd.
6 A mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a'u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a'u cadernid a ddisgynnaf i'r llawr.
7 Cofiaf drugareddau yr Arglwydd, a moliant Duw, yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau.
8 Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn Iachawdwr iddynt.
9 Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychioldeb a'u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a'u dygodd hwynt, ac a'u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt.