8 Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn Iachawdwr iddynt.
9 Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychioldeb a'u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a'u dygodd hwynt, ac a'u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt.
10 Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn.
11 Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a'i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a'u dygodd hwynt i fyny o'r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o'i fewn ef?
12 Yr hwn a'u tywysodd hwynt â deheulaw Moses, ac â'i ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd o'u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tragwyddol?
13 Yr hwn a'u harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent?
14 Fel y disgyn anifail i'r dyffryn, y gwna Ysbryd yr Arglwydd iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.