1 Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf; cafwyd fi gan y rhai ni'm ceisiasant: dywedais, Wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i.
2 Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun;
3 Pobl y rhai a'm llidient i yn wastad yn fy wyneb; yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogldarthu ar allorau priddfeini;
4 Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri;