11 Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr Arglwydd, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i'r llu acw, ac a lenwch ddiod‐offrwm i'r niferi acw.
12 Rhifaf chwithau i'r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i'r lladdedigaeth: oherwydd pan elwais chwi, nid atebasoch; pan leferais, ni wrandawsoch; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf.
13 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele, fy ngweision a fwytânt, a chwithau a newynwch: wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawenychant, a chwithau a fydd cywilydd arnoch:
14 Wele, fy ngweision a ganant o hyfrydwch calon, a chwithau a waeddwch rhag gofid calon, ac a udwch rhag cystudd ysbryd.
15 A'ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion: canys yr Arglwydd Dduw a'th ladd di, ac a eilw ei weision ar enw arall:
16 Fel y bo i'r hwn a ymfendigo ar y ddaear, ymfendigo yn Nuw y gwirionedd; ac i'r hwn a dyngo ar y ddaear, dyngu i Dduw y gwirionedd: am anghofio y trallodau gynt, ac am eu cuddio hwynt o'm golwg.
17 Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daear newydd: a'r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylir amdanynt.