20 Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â'r ellyn a gyflogir, sef â'r rhai o'r tu hwnt i'r afon, sef â brenin Asyria, y pen, a blew y traed; a'r farf hefyd a ddifa efe.
21 A bydd yn y dydd hwnnw, i ŵr fagu anner‐fuwch, a dwy ddafad:
22 Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwyta ymenyn: canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir.
23 A bydd y dydd hwnnw, fod pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol, yn fieri ac yn ddrain y bydd.
24 Â saethau ac â bwâu y daw yno: canys yn fieri ac yn ddrain y bydd yr holl wlad.
25 Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau, ni ddaw yno ofn mieri na drain: ond bydd yn hebryngfa gwartheg, ac yn sathrfa defaid.