1 Eto ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali, ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i'r Iorddonen, yn Galilea y cenhedloedd.
2 Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr: y rhai sydd yn aros yn nhir cysgod angau y llewyrchodd goleuni arnynt.
3 Amlheaist y genhedlaeth, ni chwanegaist lawenydd; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf, ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail.
4 Canys drylliaist iau ei faich ef, a ffon ei ysgwydd ef, gwialen ei orthrymwr, megis yn nydd Midian.
5 Canys pob cad y rhyfelwr sydd mewn trwst, a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed; ond bydd hwn trwy losgiad a chynnud tân.