8 Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel.
9 A'r holl bobl a wybydd, sef Effraim a thrigiannydd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon,
10 Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a'u newidiwn yn gedrwydd.
11 Am hynny yr Arglwydd a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd;
12 Y Syriaid o'r blaen, a'r Philistiaid hefyd o'r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
13 A'r bobl ni ddychwelant at yr hwn a'u trawodd, ac ni cheisiant Arglwydd y lluoedd.
14 Am hynny y tyr yr Arglwydd oddi wrth Israel ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr un dydd.