2 A rhoddi o'r Arglwydd dy Dduw hwynt o'th flaen di, a tharo ohonot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfamod â hwynt, ac na thrugarha wrthynt.
3 Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt: na ddod dy ferch i'w fab ef, ac na chymer ei ferch ef i'th fab dithau.
4 Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i, fel y gwasanaethont dduwiau dieithr: felly yr ennyn llid yr Arglwydd i'ch erbyn chwi, ac a'th ddifetha di yn ebrwydd
5 Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinistriwch eu hallorau, a thorrwch eu colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân.
6 Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i'r Arglwydd dy Dduw: yr Arglwydd dy Dduw a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
7 Nid am eich bod yn lluosocach na'r holl bobloedd, yr hoffodd yr Arglwydd chwi, ac y'ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o'r holl bobloedd
8 Ond oherwydd caru o'r Arglwydd chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr Arglwydd chwi allan â llaw gadarn, ac a'ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft.