1 Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear.
2 A'r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.
3 A Duw a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu.
4 A Duw a welodd y goleuni, mai da oedd: a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a'r tywyllwch.
5 A Duw a alwodd y goleuni yn Ddydd, a'r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y dydd cyntaf.
6 Duw hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a'r dyfroedd.
7 A Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a'r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.