Genesis 22 BWM

1 Ac wedi'r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

2 Yna y dywedodd Duw, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o'r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

3 Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i'r lle a ddywedasai Duw wrtho.

4 Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai'r lle o hirbell.

5 Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; a mi a'r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch.

6 Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm, ac a'i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymerodd y tân, a'r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd.

7 A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poethoffrwm?

8 Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd:

9 Ac a ddaethant i'r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a'i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed.

10 Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab;

11 Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o'r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

12 Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.

13 Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o'i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a'i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab.

14 Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH‐jire; fel y dywedir heddiw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.

15 Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o'r nefoedd;

16 Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad ateliaist dy fab, dy unig fab:

17 Mai gan fendithio y'th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a'th had a feddianna borth ei elynion;

18 Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i.

19 Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer‐seba: ac Abraham a drigodd yn Beer‐seba.

20 Darfu hefyd, wedi'r pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd;

21 Hus ei gyntaf‐anedig, a Bus ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram,

22 A Chesed, a Haso, a Phildas, ac Idlaff, a Bethuel.

23 A Bethuel a genhedlodd Rebeca: yr wyth hyn a blantodd Milca i Nachor brawd Abraham.

24 Ei ordderchwraig hefyd, a'i henw Reuma, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maacha.