Genesis 50 BWM

1 Yna y syrthiodd Joseff ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a'i cusanodd ef.

2 Gorchmynnodd Joseff hefyd i'w weision, y meddygon, berarogli ei dad ef: felly y meddygon a beraroglasant Israel.

3 Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir,) yna yr Eifftiaid a'i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain.

4 Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharo, atolwg, gan ddywedyd,

5 Fy nhad a'm tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y'm cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny, atolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.

6 A dywedodd Pharo, Dos i fyny, a chladd dy dad, fel y'th dyngodd.

7 A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad: a holl weision Pharo, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, a aethant i fyny gydag ef,

8 A holl dŷ Joseff, a'i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a'u defaid, a'u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.

9 Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.

10 A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod.

11 Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr dyrnu Atad; yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel‐Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.

12 A'i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt.

13 Canys ei feibion a'i dygasant ef i wlad Canaan, ac a'i claddasant ef yn ogof maes Machpela: yr hon a brynasai Abraham gyda'r maes, yn feddiant beddrod, gan Effron yr Hethiad, o flaen Mamre.

14 A dychwelodd Joseff i'r Aifft, efe, a'i frodyr, a'r rhai oll a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.

15 Pan welodd brodyr Joseff farw o'u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a'n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef.

16 A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,

17 Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a'u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho.

18 A'i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.

19 A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle Duw?

20 Chwi a fwriadasoch ddrwg i'm herbyn; ond Duw a'i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer.

21 Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a'ch cynhaliaf chwi, a'ch rhai bach. Ac efe a'u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.

22 A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg.

23 Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff.

24 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a'ch dwg chwi i fyny o'r wlad hon, i'r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.

25 A thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a'ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma.

26 A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a'i peraroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.