1 A Jacob a gerddodd i'w daith yntau: ac angylion Duw a gyfarfu ag ef.
2 A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll Duw: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim.
3 A Jacob a anfonodd genhadau o'i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom:
4 Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyda Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.
5 Ac y mae i mi eidionau, ac asynnod, defaid, a gweision, a morynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i'm harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.
6 A'r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i'th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gydag ef.
7 Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef, a'r defaid, a'r eidionau, a'r camelod, yn ddwy fintai;
8 Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddihangol.
9 A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i'th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!
10 Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di, nac o'r holl wirionedd a wnaethost â'th was: oblegid â'm ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.
11 Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a'm taro, a'r fam gyda'r plant.
12 A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a'th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.
13 Ac yno y lletyodd efe y noson honno: ac o'r hyn a ddaeth i'w law ef y cymerth efe anrheg i'w frawd Esau;
14 Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod,
15 Deg ar hugain o gamelod blithion a'u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asennod, a deg o ebolion.
16 Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o'r neilltu; ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o'm blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyr a'i gilydd.
17 Ac efe a orchmynnodd i'r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a'th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr ei? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o'th flaen di?
18 Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i'm harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hôl ni.
19 Felly y gorchmynnodd hefyd i'r ail, ac i'r trydydd, ac i'r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno.
20 A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hôl ni. Oblegid (eb efe) bodlonaf ei wyneb ef â'r anrheg sydd yn myned o'm blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.
21 Felly yr anrheg a aeth trosodd o'i flaen ef: ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll.
22 Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gymerth ei ddwy wraig, a'i ddwy lawforwyn, a'i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc.
23 Ac a'u cymerth hwynt, ac a'u trosglwyddodd trwy'r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.
24 A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi'r wawr.
25 A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef.
26 A'r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni'th ollyngaf, oni'm bendithi.
27 Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob.
28 Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda Duw fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist.
29 A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a'i bendithiodd ef.
30 A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes.
31 A'r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o'i glun.
32 Am hynny plant Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.