Genesis 36 BWM

1 A dyma genedlaethau Esau: efe yw Edom.

2 Esau a gymerth ei wragedd o ferched Canaan; Ada, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibama, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad;

3 Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth.

4 Ac Ada a ymddûg Eliffas i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel.

5 Aholibama hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.

6 Ac Esau a gymerodd ei wragedd, a'i feibion, a'i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a'i anifeiliaid, a'i holl ysgrubliaid, a'i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i'r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.

7 Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd‐drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid.

8 Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.

9 A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.

10 Dyma enwau meibion Esau: Eliffas, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.

11 A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, a Gatam, a Chenas.

12 A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliffas: dyma feibion Ada gwraig Esau.

13 A dyma feibion Reuel; Nahath a Sera, Samma a Missa: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.

14 Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chora.

15 Dyma ddugiaid o feibion Esau; meibion Eliffas cyntaf‐anedig Esau, dug Teman, dug Omar, dug Seffo, dug Cenas,

16 Dug Cora, dug Gatam, dug Amalec: dyma y dugiaid o Eliffas, yng ngwlad Edom: dyma feibion Ada.

17 A dyma feibion Reuel mab Esau; dug Nahath, dug Sera, dug Samma, dug Missa: dyma y dugiaid o Reuel, yng ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.

18 Dyma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau: dug Jeus, dug Jalam, dug Cora; dyma y dugiaid o Aholibama, merch Ana, gwraig Esau.

19 Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu dugaid hwynt.

20 Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanheddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana.

21 A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma ddugiaid yr Horiaid, meibion Seir, yng ngwlad Edom.

22 A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.

23 A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Seffo, ac Onam.

24 A dyma feibion Sibeon; Aia ac Ana: hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad.

25 A dyma feibion Ana; Dison ac Aholibama merch Ana.

26 Dyma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.

27 Dyma feibion Eser; Bilhan, a Saafan, ac Acan.

28 Dyma feibion Disan; Us ac Aran.

29 Dyma ddugiaid yr Horiaid; dug Lotan, dug Sobal, dug Sibeon, dug Ana,

30 Dug Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma ddugiaid yr Horiaid ymhlith eu dugiaid yng ngwlad Seir.

31 Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yng ngwlad Edom, cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel.

32 A Bela, mab Beor, a deyrnasodd yn Edom: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.

33 A Bela a fu farw; a Jobab, mab Sera o Bosra, a deyrnasodd yn ei le ef.

34 Jobab hefyd a fu farw; a Husam, o wlad Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.

35 A bu Husam farw; a Hadad, mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Afith.

36 Marw hefyd a wnaeth Hadad; a Samla, o Masreca, a deyrnasodd yn ei le ef.

37 A bu Samla farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.

38 A bu Saul farw; a Baalhanan, mab Achbor, a deyrnasodd yn ei le ef.

39 A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.

40 A dyma enwau y dugiaid o Esau, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau; dug Timna, dug Alfa, dug Jetheth,

41 Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon,

42 Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar,

43 Dug Magdiel, dug Iram. Dyma y dugiaid o Edom, yn ôl eu preswylfeydd, yng ngwlad eu perchenogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid.