Genesis 42 BWM

1 Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd Jacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd?

2 Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ŷd yn yr Aifft: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno; fel y bôm fyw, ac na byddom feirw.

3 A deg brawd Joseff a aethant i waered, i brynu ŷd, i'r Aifft.

4 Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef.

5 A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod; oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan.

6 A Joseff oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseff a ddaethant, ac a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.

7 A Joseff a ganfu ei frodyr, ac a'u hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a atebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.

8 A Joseff oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.

9 A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy; ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.

10 Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nage, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth.

11 Nyni oll ydym feibion un gŵr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr.

12 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nage; ond i edrych noethder y wlad y daethoch.

13 Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeg brawd, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddiw gyda'n tad ni, a'r llall nid yw fyw.

14 A Joseff a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais, wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.

15 Wrth hyn y'ch profir: Myn einioes Pharo, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o'ch brawd ieuangaf yma.

16 Hebryngwch un ohonoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid e, myn einioes Pharo, ysbïwyr yn ddiau ydych chwi.

17 As efe a'u rhoddodd hwynt i gyd yng ngharchar dridiau.

18 Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseff wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni Duw yr wyf fi.

19 Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o'ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i'ch tylwyth.

20 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi: felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.

21 Ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.

22 A Reuben a'u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod; ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef.

23 Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.

24 Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd; ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o'u mysg hwynt Simeon, ac a'i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

25 Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i'w fwyta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.

26 Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno.

27 Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i'w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef.

28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian; ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?

29 A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan; ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,

30 Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a'n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad.

31 Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni; nid ysbïwyr ydym.

32 Deuddeg o frodyr oeddem ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyda'n tad ni yng ngwlad Canaan.

33 A dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadewch gyda myfi un o'ch brodyr, a chymerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith.

34 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnata yn y wlad.

35 Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt‐hwy a'u tad, ofni a wnaethant.

36 A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseff nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.

37 A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn atat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a'i dygaf ef atat ti eilwaith.

38 Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyda chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd‐ddi, yna chwi a barech i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.