1 Felly y gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear, a'u holl lu hwynt.
2 Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.
3 A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i'w wneuthur.
4 Dyma genedlaethau y nefoedd a'r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd,
5 A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio'r ddaear.
6 Ond tarth a esgynnodd o'r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear.
7 A'r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a'r dyn a aeth yn enaid byw.
8 Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden, o du'r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.
9 A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob pren dymunol i'r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o'r ddaear.
10 Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.
11 Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur:
12 Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwm a'r maen onics.
13 Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.
14 Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du'r dwyrain i Asyria: a'r bedwaredd afon yw Ewffrates.
15 A'r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn, ac a'i gosododd ef yng ngardd Eden, i'w llafurio ac i'w chadw hi.
16 A'r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta:
17 Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.
18 Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo.
19 A'r Arglwydd Dduw a luniodd o'r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a'u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.
20 Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo.
21 A'r Arglwydd Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o'i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi.
22 A'r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o'r dyn, yn wraig, ac a'i dug at y dyn.
23 Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o'm hesgyrn i, a chnawd o'm cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi.
24 Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â'i dad, ac â'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.
25 Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a'i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.