1 Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt,
2 Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o'r rhai oll a ddewisasant.
3 A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe: a'i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.
4 Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o'r rhai hynny iddynt: dyma'r cedyrn a fu wŷr enwog gynt.
5 A'r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser.
6 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
7 A'r Arglwydd a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
8 Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr Arglwydd.
9 Dyma genedlaethau Noa: Noa oedd ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyda Duw y rhodiodd Noa.
10 A Noa a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Jaffeth.
11 A'r ddaear a lygrasid gerbron Duw; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.
12 A Duw a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.
13 A Duw a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a'u difethaf hwynt gyda'r ddaear.
14 Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg.
15 Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.
16 Gwna ffenestr i'r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi.
17 Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.
18 Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac i'r arch yr ei di, tydi a'th feibion, a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi.
19 Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i'r arch i'w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant.
20 O'r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o'r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i'w cadw yn fyw.
21 A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.
22 Felly y gwnaeth Noa, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Duw iddo, felly y gwnaeth efe.