1 Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf.
2 Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad.
3 Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.
4 Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad: yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.
5 Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau.
6 Na ddeled fy enaid i'w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â'u cynulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant ŵr, ac o'u gwirfodd y diwreiddiasant gaer.
7 Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a'u llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.
8 Tithau, Jwda, dy frodyr a'th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymant i ti.
9 Cenau llew wyt ti, Jwda; o'r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a'i cyfyd ef?
10 Nid ymedy'r deyrnwialen o Jwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd.
11 Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a'i ddillad yng ngwaed y grawnwin.
12 Coch fydd ei lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.
13 Sabulon a breswylia ym mhorth‐leoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a'i derfyn fydd hyd Sidon.
14 Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn.
15 Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a'r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.
16 Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel.
17 Dan fydd sarff ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau'r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.
18 Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.
19 Gad, llu a'i gorfydd; ac yntau a orfydd o'r diwedd.
20 O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.
21 Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.
22 Joseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur.
23 A'r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a'i casasant ef.
24 Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo grymus Dduw Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:
25 Trwy Dduw dy dad, yr hwn a'th gynorthwya, a'r Hollalluog, yr hwn a'th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a'r groth.
26 Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.
27 Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwyty'r ysglyfaeth, a'r hwyr y rhan yr ysbail.
28 Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll; a dyma'r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt.
29 Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyda'm tadau, yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad;
30 Yn yr ogof sydd ym maes Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yng ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.
31 Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig; ac yno y cleddais i Lea.
32 Meddiant y maes, a'r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.
33 Pan orffennodd Jacob orchymyn i'w feibion, efe a dynnodd ei draed i'r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.