Genesis 24 BWM

1 Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a'r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim.

2 A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a'r a oedd ganddo, Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd:

3 A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymerech wraig i'm mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg:

4 Ond i'm gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gymeri wraig i'm mab Isaac.

5 A'r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i'r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i'r tir y daethost allan ohono?

6 A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.

7 Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a'm cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o'th flaen di, a thi a gymeri wraig i'm mab oddi yno.

8 Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno.

9 A'r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.

10 A chymerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor.

11 Ac efe a wnaeth i'r camelod orwedd o'r tu allan i'r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr.

12 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â'm meistr Abraham.

13 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr:

14 A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i'th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â'm meistr.

15 A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a'i hystên ar ei hysgwydd.

16 A'r llances oedd deg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i'r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny.

17 A'r gwas a redodd i'w chyfarfod, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi yfed ychydig ddwfr o'th ystên.

18 A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a'i diododd ef.

19 A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i'th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed.

20 A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i'r cafn, ac a redodd eilwaith i'r pydew i dynnu, ac a dynnodd i'w holl gamelod ef.

21 A'r gŵr, yn synnu o'i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai naddo.

22 A bu, pan ddarfu i'r camelod yfed, gymryd o'r gŵr glustlws aur, yn hanner sicl ei bwys; a dwy freichled i'w dwylo hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys.

23 Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, atolwg: a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad?

24 A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca, yr hwn a ymddûg hi i Nachor.

25 A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letya.

26 A'r gŵr a ymgrymodd, ac a addolodd yr Arglwydd.

27 Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a'i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr.

28 A'r llances a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.

29 Ac i Rebeca yr oedd brawd, a'i enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i'r ffynnon.

30 A phan welodd efe y clustlws, a'r breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyda'r camelod wrth y ffynnon.

31 Ac efe a ddywedodd, Tyred i mewn, ti fendigedig yr Arglwydd; paham y sefi di allan? canys mi a baratoais y tŷ, a lle i'r camelod.

32 A'r gŵr a aeth i'r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i'r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gydag ef.

33 A gosodwyd bwyd o'i flaen ef i fwyta; ac efe a ddywedodd, Ni fwytâf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha.

34 Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi.

35 A'r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morynion, a chamelod, ac asynnod.

36 Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i'm meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo.

37 A'm meistr a'm tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymer wraig i'm mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir.

38 Ond ti a ei i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymeri wraig i'm mab.

39 A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i.

40 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyda thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymeri wraig i'm mab i o'm tylwyth, ac o dŷ fy nhad.

41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.

42 A heddiw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:

43 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a'r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, atolwg, ychydig ddwfr i'w yfed o'th ystên;

44 Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i'th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.

45 A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeca yn dyfod allan, a'i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i'r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dioda fi, atolwg.

46 Hithau a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd.

47 A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milca iddo ef. Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb, a'r breichledau am ei dwylo hi:

48 Ac a ymgrymais, ac a addolais yr Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a'm harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab ef.

49 Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â'm meistr, mynegwch i mi: ac onid e, mynegwch i mi; fel y trowyf ar y llaw ddeau, neu ar y llaw aswy.

50 Yna yr atebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da.

51 Wele Rebeca o'th flaen; cymer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd.

52 A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymodd hyd lawr i'r Arglwydd.

53 A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd, ac a'u rhoddodd i Rebeca: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i'w brawd hi, ac i'w mam.

54 A hwy a fwytasant ac a yfasant, efe a'r dynion oedd gydag ef, ac a letyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr.

55 Yna y dywedodd ei brawd a'i mam, Triged y llances gyda ni ddeng niwrnod o'r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned.

56 Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i'r Arglwydd lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr.

57 Yna y dywedasant, Galwn ar y llances, a gofynnwn iddi hi.

58 A hwy a alwasant ar Rebeca, a dywedasant wrthi, A ei di gyda'r gŵr hwn? A hi a ddywedodd, Af.

59 A hwy a ollyngasant Rebeca eu chwaer, a'i mamaeth, a gwas Abraham, a'i ddynion;

60 Ac a fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.

61 Yna y cododd Rebeca, a'i llancesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ôl y gŵr; a'r gwas a gymerodd Rebeca, ac a aeth ymaith.

62 Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai‐roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau.

63 Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod.

64 Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel.

65 Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i'n cyfarfod ni? A'r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymerth orchudd, ac a ymwisgodd.

66 A'r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe.

67 Ac Isaac a'i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymerth Rebeca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a'i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam.