Genesis 31 BWM

1 Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i'n tad ni, ac o'r hyn ydoedd i'n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn.

2 Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban, ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis cynt.

3 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyda thi.

4 A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Lea i'r maes, at ei braidd,

5 Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tuag ataf fi: a Duw fy nhad a fu gyda myfi.

6 A chwi a wyddoch mai â'm holl allu y gwasanaethais eich tad.

7 A'ch tad a'm twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond ni ddioddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.

8 Os fel hyn y dywedai; Y mân‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân‐frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch‐frithion.

9 Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a'u rhoddes i mi.

10 Bu hefyd yn amser cyfebru o'r praidd, ddyrchafu ohonof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llamu'r praidd,) yn glych‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion.

11 Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a atebais, Wele fi.

12 Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu'r praidd yn gylch‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.

13 Myfi yw Duw Bethel, lle yr eneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o'r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.

14 A Rahel a Lea a atebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes eto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad?

15 Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid efe a'n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.

16 Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni, nyni a'n plant a'i piau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt, gwna.

17 Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a'i wragedd ar gamelod;

18 Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a'i holl gyfoeth yr hwn a enillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan.

19 Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladratasai'r delwau oedd gan ei thad hi.

20 A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd.

21 Felly y ffodd efe â'r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.

22 A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob.

23 Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac a'i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.

24 A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg.

25 Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â'i frodyr ym mynydd Gilead.

26 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf.

27 Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladrateaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn?

28 Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a'm merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffôl, gan wneuthur hyn.

29 Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg.

30 Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladrateaist fy nuwiau i?

31 A Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Am ofni ohonof; oblegid dywedais, Rhag dwyn ohonot dy ferched oddi arnaf trwy drais.

32 Gyda'r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw: gerbron ein brodyr myn wybod pa beth o'r eiddot ti sydd gyda myfi, a chymer i ti: ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a'u lladratasai hwynt.

33 A Laban a aeth i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac nis cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth i babell Rahel.

34 A Rahel a gymerasai'r delwau, ac a'u gosodasai hwynt yn offer y camel, ac a eisteddasai arnynt; a Laban a chwiliodd yr holl babell, ac nis cafodd.

35 A hi a ddywedodd wrth ei thad, Na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi: ac efe a chwiliodd, ac ni chafodd y delwau.

36 A Jacob a ddigiodd, ac a roes sen i Laban: a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid ohonot ar fy ôl?

37 Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a'th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau.

38 Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi; dy ddefaid a'th eifr ni erthylasant, ac ni fwyteais hyrddod dy braidd.

39 Ni ddygais ysglyfaeth atat ti: myfi a'i gwnawn ef yn dda; o'm llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrateid y dydd, a'r hyn a ladrateid y nos.

40 Bûm y dydd, y gwres a'm treuliodd, a rhew y nos; a'm cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid.

41 Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau.

42 Oni buasai fod Duw fy nhad, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyda mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo, ac a'th geryddodd di neithiwr.

43 Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a'r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a'r praidd yw fy mhraidd i; a'r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddiw pa beth a wnaf i'm merched hyn, ac i'w meibion hwynt y rhai a esgorasant?

44 Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfamod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau.

45 A Jacob a gymerth garreg, ac a'i cododd hi yn golofn.

46 Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwytasant yno ar y garnedd.

47 A Laban a'i galwodd hi Jeger‐Sahadwtha: a Jacob a'i galwodd hi Galeed.

48 A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddiw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed,

49 A Mispa; oblegid efe a ddywedodd, Gwylied yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd.

50 Os gorthrymi di fy merched, neu os cymeri wragedd heblaw fy merched i; nid oes neb gyda ni; edrych, Duw sydd dyst rhyngof fi a thithau.

51 Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob, Wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi:

52 Tyst a fydd y garnedd hon, a thyst a fydd y golofn, na ddeuaf fi dros y garnedd hon atat ti, ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na'r golofn hon ataf fi, er niwed.

53 Duw Abraham, a Duw Nachor, a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac.

54 Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwyta bara: a hwy a fwytasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd.

55 A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a'i ferched, ac a'u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i'w fro ei hun.