Genesis 16 BWM

1 Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes, a'i henw Agar.

2 A Sarai a ddywedodd wrth Abram, Wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: dos, atolwg, at fy llawforwyn; fe allai y ceir i mi blant ohoni hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.

3 A Sarai, gwraig Abram, a gymerodd ei morwyn Agar yr Eifftes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a'i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.

4 Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi ohoni, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi.

5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i'th fynwes, a hithau a welodd feichiogi ohoni, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi.

6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a'i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.

7 Ac angel yr Arglwydd a'i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur:

8 Ac efe a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr ei di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai.

9 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylo hi.

10 Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhau yr amlhaf dy had di, fel na rifir ef o luosowgrwydd.

11 Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di.

12 Ac efe a fydd ddyn gwyllt, a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig gerbron ei holl frodyr.

13 A hi a alwodd enw yr Arglwydd, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ôl yr hwn sydd yn edrych arnaf?

14 Am hynny y galwyd y ffynnon Beer‐lahai‐roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.

15 Ac Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Ismael.

16 Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.