1 A Duw a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a'r a oedd gydag ef yn yr arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a'r dyfroedd a lonyddasant.
2 Caewyd hefyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o'r nefoedd.
3 A'r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.
4 Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
5 A'r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y gwelwyd pennau'r mynyddoedd.
6 Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe.
7 Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.
8 Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai'r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear.
9 Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i'r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd hi, ac a'i derbyniodd hi ato i'r arch.
10 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o'r arch.
11 A'r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o'r dyfroedd oddi ar y ddaear.
12 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.
13 Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y darfu i'r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.
14 Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, y ddaear a sychasai.
15 A llefarodd Duw wrth Noa, gan ddywedyd,
16 Dos allan o'r arch, ti, a'th wraig, a'th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi.
17 Pob peth byw a'r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.
18 A Noa a aeth allan, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef.
19 Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o'r arch.
20 A Noa a adeiladodd allor i'r Arglwydd, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor.
21 A'r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio'r ddaear mwy er mwyn dyn: oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o'i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
22 Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.