1 Ac yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Jwda fyned i waered oddi wrth ei frodyr, a throi at ŵr o Adulam, a'i enw Hira.
2 Ac yno y canfu Jwda ferch gŵr o Ganaan, a'i enw ef oedd Sua; ac a'i cymerodd hi, ac a aeth ati hi.
3 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Er.
4 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Onan.
5 A thrachefn hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Sela. Ac yn Chesib yr oedd efe pan esgorodd hi ar hwn.
6 A Jwda a gymerth wraig i Er ei gyntaf‐anedig, a'i henw Tamar.
7 Ac yr oedd Er, cyntaf‐anedig Jwda, yn ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd; a'r Arglwydd a'i lladdodd ef.
8 A Jwda a ddywedodd wrth Onan, Dos at wraig dy frawd, a phrioda hi, a chyfod had i'th frawd.
9 Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y byddai'r had: a phan elai efe at wraig ei frawd, yna y collai efe ei had ar y llawr, rhag rhoddi ohono had i'w frawd.
10 A drygionus oedd yr hyn a wnaethai efe yng ngolwg yr Arglwydd: am hynny efe a'i lladdodd yntau.
11 Yna Jwda a ddywedodd wrth Tamar ei waudd, Trig yn weddw yn nhŷ dy dad, hyd oni chynyddo fy mab Sela: (oblegid efe a ddywedodd, Rhag ei farw yntau fel ei frodyr.) A Thamar a aeth, ac a drigodd yn nhŷ ei thad.
12 Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Sua, gwraig Jwda: a Jwda a gymerth gysur, ac a aeth i fyny i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid, efe a'i gyfaill Hira yr Adulamiad.
13 Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywedyd, Wele dy chwegrwn yn myned i fyny i Timnath, i gneifio ei ddefaid.
14 Hithau a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod oddi amdani, ac a'i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.
15 A Jwda a'i canfu hi, ac a dybiodd mai putain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb.
16 Ac efe a drodd ati hi i'r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, atolwg, gad i mi ddyfod atat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cei ddyfod ataf?
17 Yntau a ddywedodd, Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?
18 Yntau a ddywedodd, Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a'th freichledau, a'th ffon sydd yn dy law. Ac efe a'u rhoddes iddi, ac a aeth ati; a hi a feichiogodd ohono ef.
19 Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith, ac a ddiosgodd ei gorchudd oddi amdani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod.
20 A Jwda a hebryngodd fyn gafr yn llaw yr Adulamiad ei gyfaill, i gymryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.
21 Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd, Pa le y mae y butain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.
22 Ac efe a ddychwelodd at Jwda ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.
23 A Jwda a ddywedodd, Cymered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y myn hwn, a thithau ni chefaist hi.
24 Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Jwda, gan ddywedyd, Tamar dy waudd di a buteiniodd; ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Jwda, Dygwch hi allan, a llosger hi.
25 Yna hi, pan ddygwyd hi allan, a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd, O'r gŵr biau'r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, Adnebydd, atolwg, eiddo pwy yw y sêl, a'r breichledau, a'r ffon yma.
26 A Jwda a adnabu y pethau hynny, ac a ddywedodd, Cyfiawnach yw hi na myfi; oherwydd na roddais hi i'm mab Sela: ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy.
27 Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi, wele efeilliaid yn ei chroth hi.
28 Bu hefyd pan esgorodd hi, i un roddi allan ei law: a'r fydwraig a gymerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch, gan ddywedyd, Hwn a ddaeth yn gyntaf allan.
29 A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl, yna wele, ei frawd ef a ddaeth allan: a hithau a ddywedodd, Pa fodd y torraist allan? bid y toriad hwn arnat ti; am hynny y galwyd ei enw ef Phares.
30 Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law: a galwyd ei enw ef Sera.