14 Duw hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a'r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.
15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu.
16 A Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu'r dydd, a'r goleuad lleiaf i lywodraethu'r nos: a'r sêr hefyd a wnaeth efe.
17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaear,
18 Ac i lywodraethu'r dydd a'r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a'r tywyllwch: a gwelodd Duw mai da oedd.
19 A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pedwerydd dydd.
20 Duw hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.