28 Duw hefyd a'u bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear.
29 A Duw a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi.
30 Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu.
31 A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a'r bore a fu, y chweched dydd.