14 Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o'r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.
15 Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig, a Heth,
16 A'r Jebusiad, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,
17 A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,
18 A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.
19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gasa: y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa.
20 Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.