18 A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.
19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gasa: y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa.
20 Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
21 I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Jaffeth yr hynaf.
22 Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram.
23 A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas.
24 Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Heber.