24 Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Heber.
25 Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.
26 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera,
27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla,
28 Obal hefyd, ac Abinael, a Seba,
29 Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.
30 A'u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain.