26 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera,
27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla,
28 Obal hefyd, ac Abinael, a Seba,
29 Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.
30 A'u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain.
31 Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ôl eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.
32 Dyma deuluoedd meibion Noa, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu cenhedloedd: ac o'r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi'r dilyw.