3 Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riffath, a Thogarma.
4 A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
5 O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6 A meibion Cham oedd Cus, a Misraim, a Phut, a Chanaan.
7 A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabteca: a meibion Raama; Seba, a Dedan.
8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
9 Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd.