1 A'r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd.
2 A bu, a hwy yn ymdaith o'r dwyrain, gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant.
3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.
4 A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a'i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear.
5 A'r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a'r tŵr a adeiladai meibion dynion.
6 A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a'r a amcanasant ei wneuthur.
7 Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd.