21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.
23 A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tera.
25 A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
26 Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.
27 A dyma genedlaethau Tera: Tera a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot.