4 A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a'i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear.
5 A'r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a'r tŵr a adeiladai meibion dynion.
6 A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a'r a amcanasant ei wneuthur.
7 Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd.
8 Felly yr Arglwydd a'u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas.
9 Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.
10 Dyma genedlaethau Sem: Sem ydoedd fab can mlwydd, ac a genhedlodd Arffacsad ddwy flynedd wedi'r dilyw.