1 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o'th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i'r wlad a ddangoswyf i ti.
2 A mi a'th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a'th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
3 Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a'th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.
4 Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gydag ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran.
5 Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a'u holl olud a gasglasent hwy, a'r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.