10 Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i'r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o'r newyn yn y wlad.
11 A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i'r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti:
12 A phan welo'r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma'i wraig ef; a hwy a'm lladdant i, a thi a adawant yn fyw.
13 Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o'th blegid di.
14 A bu, pan ddaeth Abram i'r Aifft, i'r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi.
15 A thywysogion Pharo a'i gwelsant hi, ac a'i canmolasant hi wrth Pharo: a'r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo.
16 Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid, a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod.