17 A'r Arglwydd a drawodd Pharo a'i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.
18 A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi?
19 Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith.
20 A Pharo a roddes orchymyn i'w ddynion o'i blegid ef: a hwy a'i gollyngasant ef ymaith, a'i wraig, a'r hyn oll oedd eiddo ef.