2 A mi a'th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a'th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
3 Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a'th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.
4 Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gydag ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran.
5 Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a'u holl olud a gasglasent hwy, a'r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
6 Ac Abram a dramwyodd trwy'r tir hyd le Sichem, hyd wastadedd More: a'r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw.
7 A'r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
8 Ac efe a dynnodd oddi yno i'r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua'r gorllewin, a Hai tua'r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd.