8 Ac efe a dynnodd oddi yno i'r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua'r gorllewin, a Hai tua'r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd.
9 Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tua'r deau.
10 Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i'r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o'r newyn yn y wlad.
11 A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i'r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti:
12 A phan welo'r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma'i wraig ef; a hwy a'm lladdant i, a thi a adawant yn fyw.
13 Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o'th blegid di.
14 A bu, pan ddaeth Abram i'r Aifft, i'r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi.