1 Ac Abram a aeth i fyny o'r Aifft, efe a'i wraig, a'r hyn oll oedd eiddo, a Lot gydag ef, i'r deau.
2 Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur.
3 Ac efe a aeth ar ei deithiau, o'r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai;
4 I le yr allor a wnaethai efe yno o'r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd.
5 Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll.