14 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o'r lle yr wyt ynddo, tua'r gogledd, a'r deau, a'r dwyrain, a'r gorllewin.
15 Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i'th had byth.
16 Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
17 Cyfod, rhodia trwy'r wlad, ar ei hyd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi.
18 Ac Abram a symudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd.