2 Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur.
3 Ac efe a aeth ar ei deithiau, o'r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai;
4 I le yr allor a wnaethai efe yno o'r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd.
5 Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll.
6 A'r wlad nid oedd abl i'w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd.
7 Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a'r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad.
8 Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a'th fugeiliaid di; oherwydd brodyr ydym ni.