8 Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a'th fugeiliaid di; oherwydd brodyr ydym ni.
9 Onid yw yr holl dir o'th flaen di? Ymneilltua, atolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddeau; ac os ar y llaw ddeau, minnau a droaf ar yr aswy.
10 A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i'r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr Arglwydd, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar.
11 A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua'r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd.
12 Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom.
13 A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.
14 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o'r lle yr wyt ynddo, tua'r gogledd, a'r deau, a'r dwyrain, a'r gorllewin.