1 A bu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd;
2 Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom, ac â Birsa brenin Gomorra, â Sinab brenin Adma, ac â Semeber brenin Seboim, ac â brenin Bela, hon yw Soar.
3 Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw'r môr heli.
4 Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a'r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.